Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 24 Ionawr 2022

Amser: 14.00 - 15.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12587


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Buffy Williams AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-06-1226 Dileu'r hyn sy’n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd

Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddileu’r rhwystrau i gyllid myfyrwyr a chytunwyd i:

 

 

Nododd y Cadeirydd na fydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar y deisebwyr eu hunain a'i bod yn dymuno rhoi newid ar waith yn y dyfodol.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i rannu eu pryderon ynghylch yr amser gymerir i sefydlu’r gwasanaeth hwn ac  i ofyn am eglurhad pellach ynghylch:

pha ddarpariaeth Gymraeg fydd yn cael ei darparu o fewn yr uned.

 

</AI4>

<AI5>

2.16 P-06-1233 Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith y bydd y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau wedi’u codi erbyn diwedd mis Ionawr os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru. Felly, gan ei bod yn debygol nad oes angen unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddeiseb hon, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-06-1236 Dylai menywod gael eu sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari

Nododd y Pwyllgor hanes deisebau ar y pwnc hwn; canlyniadau'r treial 20 mlynedd; a pharodrwydd y Llywodraeth i newid ei safbwynt os bydd y cyngor meddygol yn newid. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.

Wrth wneud hynny, cytunwyd y byddai’r deisebydd yn cael trawsgrifiad o unrhyw ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn, ac adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi ar y mater.

</AI6>

<AI7>

2.5   P-06-1237 Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai.

 

Nododd y Pwyllgor yr effaith ar bobl ifanc unigol, a’r anhawster i rieni ac athrawon sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru a chynlluniau ar gyfer arholiadau yn y dyfodol, nid oes unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd, felly cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

</AI7>

<AI8>

2.6   P-06-1238 Gwahardd polystyren a phlastigau untro eraill!

Nododd y Pwyllgor ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd hon, a’r gefnogaeth drawsbleidiol i hyn gan y Senedd a’r Senedd Ieuenctid. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater a bydd yn cau’r ddeiseb.

 

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i gadarnhau bod hwn yn fater byw o hyd yr hoffai’r Aelodau iddo gael ei drafod a’r bwriad i ehangu’r ddadl y tu hwnt i’r materion penodol yn y Bont-faen i roi ystyriaeth ehangach i warchod adeiladau o werth.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i dynnu sylw'r Pwyllgor Busnes at nifer o geisiadau dadl a allai fod ar ddod.

</AI10>

<AI11>

3.2   P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Nododd y Pwyllgor fod llythyr y Gweinidog yn nodi’r trefniadau ar gyfer arholiadau 2022, y bwriad i feithrin perthynas well â theuluoedd sy’n darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref, a’r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol i gefnogi teuluoedd. Yn sgil yr ymateb cadarnhaol gan y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

</AI11>

<AI12>

3.3   P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon a chytunwyd nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen.  Nid yw’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell y sgrinio y gelwir amdano yn y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 

</AI12>

<AI13>

3.4   P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y syniad o roi canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar y sail statudol drwy gymryd tystiolaeth uniongyrchol ganddo. Yn y cyfamser, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i hyn.

</AI13>

<AI14>

3.5   P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir

 

Nododd y Pwyllgor y bydd y Gweinidog yn adolygu’r gwasanaeth yn fuan a chytunodd i:

 

</AI14>

<AI15>

3.6   P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

Nododd y Pwyllgor y ddadl gadarnhaol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, estynnodd longyfarchiadau i’r deisebydd, a chaeodd y ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru fabwysiadu’r dull o warchod gwiwerod coch ar Ynys Môn yn sgil yr esiampl yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

 

</AI15>

<AI16>

3.7   P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth a Gogledd Cymru i’w rhoi mewn cysylltiad â’r Cyngor Cymuned, ac wrth wneud hynny, diolchodd i’r deisebydd a chaeodd y ddeiseb.

 

</AI16>

<AI17>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5 y cyfarfod.

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI17>

<AI18>

5       Adolygiad o amserlen y Pwyllgor a chylchoedd gwaith y Pwyllgor

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i amserlen bresennol y Pwyllgor a thynnwyd sylw at y ffaith eu bod yn ffafrio symud ymlaen.  

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>